Sepp Blatter
Mae rhai o brif noddwyr FIFA wedi mynegi eu pryder yn dilyn honiadau o lygredd o fewn yr awdurdod pêl droed rhyngwladol.
Dywedodd Coca-Cola ac Adidas fod y cecru mewnol yn gwneud drwg i ddelwedd y gêm ac i bartneriaid FIFA.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe, dywedodd llywydd FIFA, Sepp Blatter, nad oes argyfwng mewn pêl-droed rhyngwladol.
Mynnodd nad oedd unrhyw lygredd ynghlwm gyda’r penderfyniad i wobrwyo cystadleuaeth Cwpan y Byd 2022 i Qatar.
Daeth ei sylwadau ar ôl i ysgrifennydd cyffredinol FIFA, Jerome Valcke, gadarnhau iddo anfon e-bost yn honni bod gemau Cwpan y Byd 2022 wedi eu prynu.
Ond er bod Qatar wedi defnyddio eu “nerth ariannol” i lobïo am bleidleisiau, roedden nhw wedi gwneud hynny yn gwbl gyfreithlon, meddai.
Mae dau aelod o FIFA, Mohamed Bin Hammam a Jack Warner, wedi cael eu gwahardd yn dilyn cyhuddiadau o dderbyn llwgrwobrwyon.