Canol maes Hohhnot
Mae llywodraeth China wedi taro nôl yn dilyn y protestiadau mwyaf ym Mongolia Fewnol ers dros 20 mlynedd.
Mae’r rhanbarth ymysg y mwyaf heddychlon yn y wlad fel arfer ond mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio mewn sawl dinas a thref ers i ddau o’r Mongolwyr gael eu lladd yn ystod gwrthdaro ddechrau’r mis.
Mae’r llywodraeth wedi ymateb drwy gynyddu nifer yr heddlu ar y strydoedd, atal y cysylltiadau â’r we a gorfodi disgyblion ysgol uwchradd a myfyrwyr prifysgolion i aros ar eu campysau.
Mae’r strategaeth i weld wedi atal y protestiadau yn y brifddinas Hohhot. Dywedodd llygaid-dystion fod myfyrwyr wedi ceisio protestio ddoe ond fod yr heddlu wedi llwyddo i’w hatal.
Doedd yna ddim awgrym fod unrhyw brotestio heddiw, ac mae’r llywodraeth wedi gwrthod ymateb i’r adroddiadau. Mae maes canol Hohhot wedi ei gau â rhwystrau ac mae heddlu para filwrol yn cadw golwg arno.
Mae cerbydau heddlu terfysg hefyd wedi eu parcio ar y strydoedd, ac mae heddlu yn gwarchod giatiau prifysgolion lleol er mwyn atal myfyrwyr rhag mynd i mewn ag allan.
Mae papur newydd swyddogol yr ardal wedi cynnwys straeon ar y dudalen blaen sy’n pwysleisio cefnogaeth y llywodraeth i ddiwylliant pobol Mongolia.