Trychineb atomfa Fukushima yn Japan - wedi dylanwadu ar bolisi'r Almaen
Mae llywodraeth yr Almaen wedi cyhoeddi y bydd yn cau pob un o orsafoedd niwclear y wlad erbyn 2022.

Roedd y Canghellor Angela Merkel wedi gwthio mesurau trwodd y llynedd i ymestyn oes 17 gorsaf niwclear y wlad, ond mae hi bellach wedi gwyrdroi’r polisi yma yn sgil trychineb Fukushima yn Japan.

Bedwar diwrnod ar ôl y trychineb roedd y Canghellor wedi gorchymyn cau saith atomfa hynaf yr Almaen, a oedd yn cynhyrchu 40% o drydan niwclear y wlad. Fydd y rhain ddim yn ailagor o gwbl bellach.

Nod y llywodraeth yw cynyddu’r trydan a gynhyrchir o wynt, yr haul a dŵr i 50% o holl gynnyrch y wlad.

Roedd yr Eidal wedi penderfynu rhoi’r gorau i gynhyrchu ynni niwclear ar ôl trychineb Chernobyl yn 1986.

Yr Alban yn croesawu

Mae penderfyniad yr Almaen wedi cael ei groesawu gan blaid yr SNP yn yr Alban.

Yn yr etholiad, roedd yr SNP wedi gwneud ymrwymiad i gynhyrchu’r hyn sydd gyfwerth â 100% o ynni’r Alban o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020.

“Mae’r byd yn deffro i beryglon anferthol ynni niwclear wrth i’r Almaen ddod y wlad ddiweddaraf i gyhoeddi ei bwriad i fynd yn ddi-niwclear,” meddai Mike Weir AS, llefarydd yr SNP ar ynni yn San Steffan.

“Mae llywodraeth yr SNP yn yr Almaen eisoes wedi penderfynu na fydd unrhyw atomfeydd newydd yn yr Alban ac mae’n bryd i lywodraeth Prydain ddilyn arweiniad yr Alban a’r Almaen.”