Mae naw o swyddogion Nato wedi eu lladd yn Afghanistan. Roedd saith o filwyr yr Unol Daleithiau ymhlith y rhai a fu farw ar ôl i fom ffrwydro mewn cae pan oedden nhw’n cynnal patrol ar droed.
Mae dau o heddweision Afghanistan wedi marw hefyd, a dau arall wedi eu hanafu yn y ffrwydrad yn nhalaith Shorabak o Kandahar, 12 milltir o’r ffin rhwng Afghanistan a Pacistan, yn ôl Abdul Raziq.
“Ddau fis yn ôl, fe wnaethon ni glirio’r ardal o derfysgwyr, ond maen nhw dal yma,” meddai Pennaeth Heddlu Shorabak.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad.
“Roedd bom wedi’i osod yng nghanol cae,” meddai llefarydd ar ran y Taliban, Qari Yousef Ahmadi.
De a Dwyrain Afghanistan yw ardaloedd mwya’ bregus y wlad.