Yr Arlywyddion Darkozy (Ffrainc) a Barack OBama'n arwain y G8 i ginio (Gwifren PA)
Fe fydd y ‘Gwanwyn Arabaidd’ yn arwain at eithafiaeth wenwynig os na fydd gwledydd y Gorllewin yn helpu, yn ôl y Prif Weinidog.

Fe ddywedodd David Cameron wrth weddill arweinwyr gwledydd cyfoethog y G8 bod angen rhoi anogaeth i wledydd fel yr Aifft a Thwnisia, lle mae protestwyr wedi disodli arweinwyr unbenaethol.

Mae yntau ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi dechrau gwthio am roi cymorth ariannol i wledydd Arabaidd sy’n symud tuag at ddemocratiaeth.

Syniad yr Americaniaid yw troi benthyciadau’r gwledydd cyfoethog yn fuddsoddiadau ac maen nhw’n ceisio perswadio gweddill yr arweinwyr yn yr uwchgynhadledd i gytuno.

‘Eisiau neges syml’

“Dw i eisiau i neges syml a chlir ddod o’r uwch-gynhadledd yma,” meddai David Cameron, “a hynny yw bod y gwledydd mwya’ pwerus ar y ddaear wedi dod at ei gilydd i ddweud wrth y gwledydd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica sydd eisiau rhagor o ddemocratiaeth, rhyddid a hawliau sifil, ein bod ni ar eu hochr.”

Gyda rhai pobol yng ngwledydd Prydain yn codi amheuon am roi cymorth i wledydd tramor, fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai er lles y Deyrnas Unedig hefyd pe bai gwledydd yn troi at ddemocratiaeth.