Mae rhagor o stormydd ffyrnig wedi chwythu ar draws canol yr Unol Daleithiau, gan ladd chwech o bobol.

Roedd tornados yn Oklahoma a gwyntoedd cryfion ar draws talaith Kansas.

Daw’r stormydd ffyrnig deuddydd yn unig ar ôl i dornado anferth rwygo drwy dref Joplin yn nhalaith Missouri, gan ladd 122 o bobol.

Tarodd sawl tornado Oklahoma City wrth i bobol deithio yn ôl o’r gwaith ddoe, gan ladd pedwar ac anafu o leiaf 60 arall, gan gynnwys tri phlentyn sydd mewn cyflwr difrifol.

Dechreuodd y stormydd tua 3pm. Caniataodd sawl busnes i bobol fynd adref yn gynnar er mwyn osgoi’r gwaethaf.

Dywedodd heddlu Kansas fod dau wedi marw ar ôl i’r gwynt daflu coeden at eu fan ger tref fach St John, tua 100 milltir i’r gorllewin o Wichita, dinas fwyaf y dalaith.

Mae disgwyl rhagor o dywydd eithafol yno heddiw wrth i’r stormydd symud i gyferiad y dwyrain.

“Yn anffodus mae’n debyg fod y tywydd yma yn mynd i barau am gyfnod eto,” meddai llywodreathwr Oklahoma, Mary Fallin.

“Rydw i’n galw ar bob un o bobol Oklahoma i gadw llygad ar y tywydd a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n saff.”

Roedd o leiaf un tornado yng ngogledd Texas hefyd, ond dim adroddiadau am ddifrod nag anafiadau.