Benjamin Netanyahu
Mae Prif Weinidog Israel wedi mynnu heddiw na fydd y wlad yn dychwelyd i’r ffiniau oedd ganddyn nhw cyn Rhyfel Chwe Diwrnod 1967.

Dywedodd Benjamin Netanyahu nad oedd hi’n “bosib amddiffyn” y ffiniau rheini, mewn araith o flaen Pwyllgor Materion Cyhoeddus America ac Israel, yn Washington.

Wfftiodd alwad yr Arlywydd Barack Obama, oedd wedi dweud yr wythnos diwethaf y dylai unrhyw gytundeb rhwng Israel a phobol Palestina fod yn seiliedig ar ffiniau 1967.

Ychwanegodd Barack Obama y byddai yn bosib addasu’r ffiniau yn ôl gofynion y ddwy wladwriaeth.

Salam Fayyad

Dywedodd Benjamin Netanyahu ei fod yn gobeithio y byddai Prif Weinidog Palestina yn gwella ar ôl iddo ddioddef o drawiad ar y galon wrth ymweld â’r Unol Daleithiau.

Roedd Salam Fayyad yn nhalaith Texas i weld ei fab yn graddio o’r coleg yno pan ddioddefodd drawiad ar y galon ddydd Sul.