Grimsvotn (Roger McNassus cca 3.0)
Mae disgwyl i’r llwch o’r llosgfynydd diweddaraf i ffrwydro yng Ngwlad yr Iâ effeithio ar yr Alban yn gynnar heno.
Mae cwmni rheoli trafnidiaeth awyr, Nats, yn dweud bod y wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddfa Dywydd yn dangos y gallai’r llwch effeithio ar rannau o’r Alban rhwng 6.00pm a hanner nos.
Fe ddywedodd Nats bod meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod ar agor ond fe allai gwasanaethau ym meysydd awyr Barra, Benbecula a Tiree gael eu heffeithio.
Mae Nats wedi galw ar deithwyr i gysylltu gyda’u cwmni awyrennau cyn teithio i’r meysydd awyr hynny.
Mae disgwyl i Nats wneud cyhoeddiad arall gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y llwch ar Brydain am tua 9.00 heno.
Y llosgfynydd
Roedd llosgfynydd Grimsvotn wedi dechrau ffrwydro dros y penwythnos a bu raid i Wlad yr Iâ gau ei meysydd awyr ddoe.
Mae awdurdod hedfan y wlad yn dweud eu bod nhw’n gobeithio ailagor eu prif faes awyr ger y brifddinas Reykjavik yn hwyrach heddiw.
Yr unig wlad arall i gael ei effeithio hyd yn hyn yw’r Ynys Las, lle mae swyddogion wedi cadarnhau bod yna gyfyngiadau hedfan.