Fe
Grimsvotn (Rhaglen Losgfynyddoedd y Byd)
allai cwmwl lludw o losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ gyrraedd Gwledydd Prydain erbyn diwedd yr wythnos.

Mae’r Swyddfa Dywydd a’r diwydiant hedfan yn parhau i gadw llygaid barcud ar y sefyllfa ar ôl i losgfynydd Grimsvotn ffrwydro gan yrru cymylau mwg 12 milltir i’r awyr.

Mae hyn ychydig tros flwyddyn ar ôl i losgfynydd arall ffrwydro gan greu anhrefn i’r diwydiant hedfan ar draws Ewrop.

‘Gwahanol iawn’

Yn ôl gwyddonwyr mae’r ffrwydrad diweddara’n annhebygol o gael yr un effaith ac ar hyn o bryd mae’r gwynt yn gadw’r llwch draw.

“Mae’r sefyllfa hon yn wahanol iawn i’r sefyllfa fis Ebrill diwethaf. Mae’r tywydd yn llawer mwy cyfnewidiol ac mae mwy o ansicrwydd,” meddai llefarydd ar ran y swyddfa dywydd.

“Does dim perygl o’r lludw’n symud ar draws Prydain yn y diwrnod neu ddau nesaf,” meddai.“Ond, mae posibilrwydd y byddwn ni’n gweld ychydig o lwch y llosgfynydd erbyn diwedd yr wythnos.”

Gwahardd hedfan

Mae swyddogion maes awyr yng Ngwlad yr Ia wedi gwahardd hedfan o amgylch y llosgfynydd ac wedi canslo teithiau awyr. Dyw’r llwch ddim wedi effeithio ar deithiau yng ngwledydd Prydain eto.

Y gobaith arall yw fod profiad y llynedd am helpu’r awdurdodau a’r cwmnïau hedfan i fesur y peryg – o ran diogelwch a chostau trwsio awyrennau sy’n cael difrod oherwydd y llwch.