Osama bin Laden yn ei guddfan
Fe fyddai Arlywydd yr Unol Daleithiau’n fodlon ymosod eto ar darged terfysgol mewn gwlad fel Pacistan – heb ganiatâd.

Dyna y mae’r Arlywydd Barack Obama wedi ei ddweud ar drothwy ei ymweliad gyda gwledydd Prydain yr wythnos nesa’.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Andrew Marr ar y BBC, fe ddywedodd mai ei brif swydd ef oedd sicrhau diogelwch trigolion yr Unol Daleithiau.

Roedd yn ymateb i gwestiwn am y cyrch i ladd arweinydd Al Qaida, Osama bin Laden, sydd wedi creu tyndra mawr rhwng Pacistan a Washington.

Roedd hofrenyddion yr Americaniaid wedi ymosod ar ganolfan bin Laden yng nghanol Pacistan, heb roi gwybod i lywodraeth y wlad.

Yn ôl Barack Obama, fe fyddai’n fodlon gwneud penderfyniad tebyg eto i daro targedau eraill.