Talaith Selangor yn Malaysia
Mae tua 30 o blant amddifad wedi eu claddu gan dirlithriad yn Malaysia heddiw.

Cafodd y cartref plant amddifad ynghanol talaith Selangor ei gladdu yn dilyn glaw trwm, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi llwyddo i dynnu chwe phlentyn oedd wedi eu hanafu yn ddifrifol o’r adeilad.

Aethpwyd â nhw i ysbyty cyfagos, meddai. Roedden nhw hefyd wedi tynnu dau gorff o’r rwbel.

Ychwanegodd fod y glaw yn parhau i ddisgyn a bod hynny yn gwneud y gwaith o geisio achub y plant yn anoddach byth.

Roedd disgwyl i’r glaw barhau i ddisgyn nes iddi nosi, meddai.