Barack Obama - rhybudd i Israel a Syria
Mae’r Arlywydd Obama wedi galw am greu gwladwriaeth annibynnol i’r Palesteiniaid yn y Dwyrain Canol a honno wedi ei seilio ar ffiniau’r diriogaeth cyn rhyfel 1967 yn erbyn Israel.

Ddiwrnod cyn i Brif Weinidog Israel ymweld â Washington, fe ddywedodd na fyddai’r wlad yn cael heddwch trwy feddiannu tiroedd y Palesteiniaid.

Roedd am fynd yn ôl i’r ffiniau cyn y Rhyfel Chwe Diwrnod pan feddiannodd yr Israeliaid dir y Palesteiniaid yn Gaza a Dwyrain Jerwsalem ac ar y Lan Orllewiniol.

Mae’r araith ar faterion tramor yn cael ei hystyried yn newid sylweddol ym mholisi’r Unol Daleithiau ond mae’r awgrym yn debyg o gael ei wrthod heddiw pan fydd Benjamin Netanyahu’n ymweld.

Ond, yn ôl yr Arlywydd, mae’r cytundeb newydd rhwng dwy garfan y Palesteiniaid – Hamas a Fatah – yn fygythiad i ddiogelwch Israel, gyda Hamas yn dal i wrthod cydnabod bodolaeth y wlad.

Rhybudd i Syria

Roedd rhan arall yn ei araith yn ymwneud â’r protestiadau yng ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol ac roedd ei neges gryfa’ i rai fel Arlywydd Syria sydd wedi defnyddio trais i ymosod ar y gwrthdystwyr a lladd cannoedd ohonyn nhw.

Fe fyddai’n rhaid iddyn nhw ildio i ddemocratiaeth neu symud o’r neilltu, meddai’r Arlywydd Obama. Roedd yr Unol Daleithiau ar ochr y gwerthwr stryd yn Tunisia a oedd wedi ei losgi ei hun i farwolaeth, yn hytrach nag unbeniaid pwerus.