Ysbyty Glan Clwyd
Roedd dyn o Fwlgaria sydd yn y ddalfa ar ôl ymosodiad erchyll gyda chylledd yn Tenerife wedi derbyn gofal yng ngogledd Cymru tua blwyddyn yng nghynt.

Mae Ymddirideolaeth Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i gofnodion meddygol Deyan Deyanov ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ymosod ar wraig Brydeinig a thorri ei phen oddi ar ei hysgwyddau.

Fe ddigwyddodd hynny mewn siop yng nghanol tre lan môr Los Cristianos ac fe ddaeth yn glir bellach ei fod wedi cael ei gadw am gyfnod yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan.

Dyma ran o ddatganiad yr Ymddiriedolaeth

“Rydym yn edrych ar holl gofnodion yr achos yn unol â gweithdrefnau clinigol safonol,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd.

“Byddwn yn cydweithredu ag asiantaethau statudol eraill ond mae gennym ddyletswydd i ddiogelu cyfrinachedd cleifion ac felly ni fyddwn yn gwneud rhagor o ddatganiadau ynghylch yr achos ar hyn o bryd.”