Stephen Hawking
Mae’r ffisegydd Stephen Hawking wedi dweud nad oes yna fywyd ar ôl marwolaeth, a bod y nefoedd yn “stori tylwyth teg” ar gyfer pobol sy’n ofni marwolaeth.
Mewn cyfweliad â phapur newydd y Guardian, dywedodd Stephen Hawking, awdur ‘A Brief History of Time’ nad oedd ymwybyddiaeth yn bosib ar ôl i’r ymennydd roi’r gorau i weithio.
“Rydw i’n ystyried yr ymennydd yn gyfrifiadur sydd yn rhoi’r ffidil yn y to pan mae ei gydrannau yn methu,” meddai.
“Does yna ddim nefoedd na bywyd arall ar gyfer cyfrifiaduron sydd wedi torri i lawr. Dim ond stori tylwyth teg ar gyfer pobol sy’n ofn y tywyllwch yw hynny.”
Mae Stephen Hawking, 69 oed, wedi goroesi ers bron i 50 mlynedd er ei fod yn dioddef o glefyd niwronau echddygol.
Roedd doctoriaid yn credu y byddai’n marw yn ei 20au, ond dywedodd nad oedd yn ofni marwolaeth.
Roedd y posibilrwydd y gallai farw’n ifanc wedi gwneud iddo fwynhau bywyd mwy, yn hytrach na llai.
“Dydw i ddim yn ofni marwolaeth, ond dydw i ddim ar frys i farw. Mae gen i lawer iawn i’w wneud yn gyntaf,” meddai.