Dominique Strauss-Kahn
Mae ail ddynes wedi honni heddiw fod Dominique Strauss-Kahn wedi ymosod yn rhywiol arni, a hynny yn Ffrainc naw mlynedd yn ôl.

Mae cyfreithiwr yr awdures, Tristane Banon, yn dweud ei bod hi nawr yn bwriadu gwneud cwyn gyfreithiol yn erbyn pennaeth yr IMF, gan honni iddo geisio cyffwrdd â hi yn anweddus, a heb ei chaniatâd, pan oedd hi’n cyfweld ag ef.

Mae’n dweudd iddi gael ei pherswadio gan ei mam, yn ôl 2002, i beidio â dwyn cwyn yn ei erbyn bryd hynny.

Roedd ei mam yn sefyll yn ymgeisydd dros ei blaid.

Mae pennaeth yr IMF bellach yn disgwyl cael mynd o flaen llys yn yr Unol Daleithau,  ddiwrnod wedi iddo gael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar forwyn mewn gwesty yn Efrog Newydd.

Ddoe, bu’r gŵr 62 oed, sy’n dad i bedwar, yn cael ei holi gan yr heddlu, cyn cael “archwiliad fforensig”, a gwneud profion DNA.

Sioc i’r Ffrancwyr

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Dominique Strauss-Kahn wedi synnu sefyldiadau cyllidol y byd, ac wedi sigo gwleidyddiaeth ei famwlad.

Ac yntau’n bennaeth ar yr IMF, ac yn aelod blaenllaw o Blaid Sosialaidd Ffrainc, roedd llawer yn tybio y byddai’n cipio arlywyddiaeth Ffrainc o Nicolas Sarkozy .

Ond mae ei wraig, Anne Sinclair – newyddiadurwraig sy’n hanu o Efrog newydd – wedi ei amddiffyn, gan ddweud nad yw hi’n “credu am eiliad y cyhuddiadau” yn erbyn ei gŵr.

“Does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n cael gwybod ei fod e’n ddi-euog.”

Amheuon am y cyhuddiadau

Yn ôl Reuters, mae un gwasanaeth newyddion yn Ffrainc wedi codi amheuon am y cyhuddiadau yn erbyn Dominique Strauss-Khan hefyd.

Dywedodd gwasanaeth radio RMC yn Ffrainc fod cyfreithwyr  Dominique Strauss-Kahn wedi ail-greu ei symudiadau ar ddiwrnod yr ymosodiad honedig, a bod hynny yn dangos ei fod wedi gadael ei westy o leia’ awr ynghynt.