Samuel Wanjiru
Mae’r pencampwr Olympaidd Samuel Wanjiru wedi marw ar ôl disgyn o falconi ei gartref yn Kenya.

Yn ôl papur newydd y Daily Nation bu farw’r rhedwr marathon 24 oed wedi iddo neidio o falconi ei ystafell wely, ar llawr cyntaf ei gartref yn Nyahururu.

Mae gwasanaeth newyddion Reuters yn dweud ei fod wedi ei gloi yn yr ystafell wely gan ei wraig cyn iddo neidio, wedi iddi ddod o hyd i’r pencampwr Olympaidd yn eu gwely gyda dynes arall.

Enillodd Samuel Wanjiru y fedal aur i Kenya yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 pan oedd yn 21 oed, gan dorri record y gemau gydag amser o ddwy awr chwe munud a 32 eiliad.

Enillodd marathon Llundain a Chicago yn 2009, ond methodd â chystadlu eto yn Llundain oherwydd anafiadau.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd Samuel Wanjiru ei gyhuddo o geisio lladd ei wraig, Triza Njeri yn ogystal â fod berchen ar reiffl AK-47 anghyfreithlon.

Cafodd y cyhuddiad o geisio lladd ei wraig ei ollwng ym mis Chwefror, ar ôl i’w wraig ddweud eu bod nhw wedi cymodi.

Ond roedd y pencampwr yn dal i wynebu’r cyhuddiad o gael reiffl anghyfreithlon yn ei feddiant, ac roedd i fod i ymddangos o flaen y llys ddoe.

Mae’r pencampwr Ewropeaidd, Mo Farah o Brydain, wedi arwain y teyrngedau i’r enillydd Olympaidd ar wefan Twitter.

“Roeddwn i’n drist iawn wrth glywed am Samuel Wanjiru. Roedd eisoes yn chwedlonol a dal mor ifanc.”