Y Frenhines Elizabeth
Fe fydd ymweliad y Frenhines â Gweriniaeth Iwerddon yn foment fawr yn hanes y wlad, yn ôl yr Arlywydd Mary McAleese.

Bydd y Frenhines yn dechrau ei hymweliad pedwar diwrnod yfory ymysg y diogelwch llymaf yn hanes y wlad.

Dyma fydd y tro cyntaf i Frenin neu Frenhines o Brydain ymweld â de’r ynys ers 100 mlynedd, a’r tro cyntaf ers i Weriniaeth Iwerddon ddatgan annibyniaeth.

Mewn cyfweliad â’r darlledwr RTE dywedodd Mary McAleese mai llwyddiant y broses heddwch oedd wedi gwneud yr ymweliad yn bosib.

“Mae’n foment hynod yn hanes Iwerddon,” meddai.

“Y Frenhines yw pennaeth gwladwriaeth ein cymdogion drws nesaf. Rydyn ni’n creu dyfodol newydd ar y cyd â nhw, dyfodol fydd yn wahanol iawn i’r gorffennol.

“Rydw i’n credu y bydd yr ymweliad yn anfon neges fod y ddwy wlad yn benderfynol o wneud y dyfodol yn lle llawer gwell.”

Bydd y Frenhines yn cyrraedd Dulyn yfory ac yna’n ymweld â Swydd Corc, Swydd Kildare, a Swydd Tipperary.

Fe fydd y Frenhines hefyd yn ymweld â Croke Park, lle y cafodd chwaraewyr a chefnogwyr eu lladd gan filwyr Prydeinig, a’r Ardd Goffa yn y brifddinas, sy’n anrhydeddu’r rheini fu farw wrth frwydro dros ryddid y wlad.

Yn ogystal â hynny bydd y Frenhines yn ymweld â story Guinness.