Mae hyd at 12 o bobl wedi cael eu lladd a dwsinau wedi cael eu hanafu mewn helyntion treisgar rhwng milwyr Israel a phrotestwyr mewn tair ardal ar ffinau’r wlad.

Roedd y ton o brotestiadau’n nodi diwrnod sefydlu gwladwriaeth Israel yn 1948 pryd y cafodd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid eu halltudio yn sgil hynny.

Yn y digwyddiad mwyaf difrifol, dywed llywodraeth Israel fod cannoedd o brotestwyr wedi rhuthro i geisio croesi’r ffin drosodd o Syria yn ardal Ucheldiroedd Golan, sydd o dan reolaeth Israel, a bod y milwyr wedi tanio atyn nhw.

Mae Israel yn cyhuddo llywodraeth Syria o fod yn gyfrifol am yr helynt:

“Mae llywodraeth Syria’n ysgogi helynt yn Israel er mwyn ceisio tynnu sylw rhyngwladol oddi wrth y ffordd y maen nhw’n gormesu eu dinasyddion sy’n protestio yn erbyn Bashar Assad,” meddai’r Is-Gyrnol Avital Leibovich, llefarydd ar ran byddin Israel.

Mae helyntion marwol wedi digwydd hefyd ar hyd ffin gogleddol Israel â Libanus, yn ogystal ag ar Lain Gaza, ger ffin ddeheuol y wlad.

Cefndir hanesyddol

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro wrth i’r Palesteinaid nodi’r “nakba”, sef y gair i ddisgrifio’r ffordd y cawson nhw eu diwreiddio o’u cartrefi adeg sefydlu gwladwriaeth Israel ar Fai 15, 1948.

Ar Facebook a gwefannau eraill, roedd ymgyrchwyr wedi annog Palesteiniaid a’u cefnogwyr mewn gwledydd cyfagos i orymdeithio ar y ffin gydag Israel i nodi’r diwrnod.

Yn yr ymladd a ddigwyddodd yn sgil creu’r wladwriaeth Iddewig, cafodd cannoedd o filoedd o Balesteinaid eu disodli, ac mae’r anghydfod ynghylch tynged y ffoaduriaid a’u disgynyddion yn dal i fod yn ffactor allweddol yn y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Fe wnaeth Israel gipio ardal Golan oddi wrth Syria mewn rhyfel yn 1967, ac mae Syria yn mynnu’r ardal yn ôl fel rhan o unrhyw gytundeb heddwch. Er gwaetha’r elyniaeth rhwng y ddwy wlad, mae’r ffin wedi bod yn dawel ers rhyfel arall yn 1973.