Mae gwraig cyn-arlywydd yr Aifft yn gwella ar ôl cael ei tharo’n wael wrth gael ei holi gan yr heddlu neithiwr.
Roedd Suzanne Mubarak, sy’n hanner Cymraes, wedi cael gwybod y byddai’n cael ei chadw yn y ddalfa ar gyfer ei holi ymhellach ar honiadau’n ymwneud â llygredd.
Mae hi’n cael ei chadw mewn ysbyty yn Sharm el-Shiekh, lle mae ei gŵr 83 oed, Hosni Mubarak, hefyd yn cael triniaeth i’w galon.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty fod Suzanne Mubarak, sy’n 70 oed, yn dioddef o angina a phwysedd gwaed uchel ond bod cardiolegydd wedi gweld “gwelliant amlwg” ei chyflwr heddiw.