Os bydd gwledydd y Gorllewin yn dal i fod yn feirniadol o record Iran ar hawliau dynol, fe fydd y wlad yn gadael i gyffuriau anghyfreithlon gael eu cludo trwyddi i Ewrop.

Dyna yw bygythiad un o uchel-swyddogion llywodraeth Iran ar wefan swyddogol yn y wlad heddiw.

Mae 74% o ddienyddiadau yn Iran yn gysylltiedig â throseddau cyffuriau, meddai Mohammad Javad Larijani, pennaeth Uchel Gyngor Hawliau Dynol Iran, wrth amddiffyn record y wlad ar ymladd yn erbyn y fasnach gyffuriau.

Mae Iran yn gorwedd ar un o brif lwybrau’r fasnach gyffuriau rhwng Afghanistan ac Ewrop, ac mae awdurdodau’r wlad yn atafaelu symiau mawr o gyffuriau – opiwm a heroin yn bennaf – yn gyson oddi wrth fasnachwyr.

Bob blwyddyn, mae’r wlad yn llosgi tua 66 tunnell o gyffuriau sydd wedi cael eu hatafael, sy’n arwydd o’i phenderfyniad i ymladd yn erbyn cyffuriau, meddai’r neges ar y wefan.