Los Cristianos (Mataparda CCA2.0)
Mae pobol leol a thwristiaid mewn tre’ wyliau yn Sbaen yn dal i geisio dod i delerau ag ymosodiad dychrynllyd pan ymosododd dyn ar Brydeinwraig ganol oed gan dorri ei phen oddi ar ei hysgwyddau.

Mae dyn o Fwlgaria wedi cael ei ddal am yr ymosodiad gyda chyllell, a ddigwyddodd yng ngolau dydd mewn siop Chineaidd yng nghanol tre lan môr Los Cristianos yn ynys Tenerife.

Mae’r disgrifiad mwya’ dramatig o’r digwyddiad ar wefan tenerifemagazine.com, lle mae’r awdur Colik Kirby’n sôn am glywed sgrechfeydd ac yna dyn yn ei 20au yn cerdded o’r siop yn dal pen gwaedlyd yn ei law.

“Ro’n i’n meddwl i ddechrau mai jôc oedd o,” meddai, gan ddweud bod y dyn yn siarad o dan ei wynt.

Mae’n ymddangos fod y dyn – Deyan Valentinov – wedi cael y gyllell yn y siop ac wedi dechrau ymosod ar y wraig, a oedd yn ei 60au, gan ei thrywanu sawl gwaith cyn torri ei phen.