John McCain
Doedd arteithio ddim o ddefnydd wrth geisio dod o hyd i Osama bin Laden, meddai’r Seneddwr Gweriniaethol John McCain heddiw.

Dywedodd John McCain, sydd ar Bwyllgor Lluoedd Arfog Senedd yr Unol Daleithiau, nad oedd arteithio wedi bod o unrhyw fudd wrth i’r wlad frwydro yn erbyn terfysgaeth.

Ychwanegodd fod y cyn-Dwrnai Cyffredinol, Michael Mukasey, yn anghywir pan honnodd fod arteithio carcharorion yng Ngwersyll Bae Guantanamo wedi arwain at Osama bin Laden.

Dywedodd John McCain ei fod wedi siarad â Leon Panetta,  Cyfarwyddwr gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau, y CIA, a’i fod wedi gwrth-ddweud honiad Michael Mukasey.

Roedd John McCain yn garcharor rhyfel am bum mlynedd yng Ngogledd Fietnam.

Dywedodd na ddylai’r Unol Daleithiau gefnu ar ei werthoedd creiddiol drwy arteithio carcharorion.