Mae dau ddaeargryn wedi taro de-ddwyrain Sbaen gan ladd o leiaf 10 o bobol, anafu degau ac achosi difrod mawr.

Roedd canolbwynt y daeargrynfeydd, 4.4 a 5.2 ar y raddfa Richter, ger tref Lorca yn ne ddwyrain y wlad. Tarodd yr ail ddaeargryn ryw ddwy awr ar ôl y cyntaf.

Mae ysbyty dros dro wedi ei sefydlu yn y dref sydd â phoblogaeth o tua 85,000 o bobol, meddai llywodraeth rhanbarth Murcia.

Cafodd tua 270 o bobol eu symud o ysbyty yn y dref ar ôl i’r daeargrynfeydd wneud niwed iddo.

Dangosodd teledu Sbaen ddelweddau o geir oedd wedi eu gwasgu gan rwbel oedd wedi disgyn o dai, a chraciau mawr mewn adeiladau.

“Fe deimlais i ysgwyd cryf iawn, a chlywed llawer iawn o sŵn, ac roeddwn i wedi cael braw,” meddai Juani Avellanada o Lorca wrth bapur newydd El Pais.

Ychwanegodd fod y daeargryn wedi hollti waliau ei thŷ a bod dodrefn ymhobman.