Arnold Schwarzenegger
Mae Arnold Schwarzenegger a’i wraig ers 25 mlynedd, Maria Shriver, wedi penderfynu gwahanu.

Mewn datganiad ar y cyd dywedid y ddau fod eu priodas wedi dod i ben ar ôl “cyfnod o drawsnewidiad personol a phroffesiynol i’r ddau ohonom ni”.

“Ar ôl cyfnod hir o ystyried, trafod, a gweddïo, rydyn ni wedi dod i’r penderfyniad yma ar y cyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr actor a cyn-Lywodraethwr California fod y ddau yn byw ar wahân ond y byddwn nhw’n parhau i fagu eu plant gyda’i gilydd.

Daeth cyfnod Arnold Schwarzenegger yn llywodraethwr i ben ym mis Ionawr ac ers hynny mae wedi bod yn gwneud bywoliaeth wrth siarad mewn cynadleddau.

Gadawodd Maria Shriver, sy’n aelod o’r teulu Kennedy, ei swydd yn ohebydd dros NBC pan gafodd Arnold Schwarzenegger ei ethol yn llywodraethwr.