Osama bin Laden - pryder ynghylch ymosodiadau i ddial am ei farwolaeth
Mae hunan fomiwr wedi gyrru car at adeilad heddlu yng nghanol Irac heddiw, gan ladd o leiaf 13 o bobl ac anafu dwsinau’n rhagor.
Yn ôl adroddiadau, plismyn oedd y mwyafrif o’r rhai a gafodd eu lladd.
Dyma’r ail ymosodiad sylweddol yn Irac ers marwolaeth Osama bin Laden ym Mhacistan nos Sul.
Ddydd Mawrth, roedd bom car wedi torri trwy gaffi yn y brifddinas Baghdad oedd yn llawn o ddynion ifanc yn gwylio gêm bêl-droed ar y teledu, gan ladd o leiaf 16 o bobl.
Mae’r awdurdodau yn Irac ar eu gwyliadwriaeth yn sgil pryder fod cangen al Qaida yn y wlad yn benderfynol o ddial.