Un o'r rhai a gafodd eu hanafu yn y ffrwydrad ddoe (AP Photo)
Cafodd 16 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad terfysgol ym Marrakech ddoe, yn ôl asiantaeth newyddion ym Moroco.

Dywed asiantaeth MAP fod dau yn rhagor o bobl wedi marw o anafiadau yn yr ysbyty, gan ddod â nifer y meirw o 14 i 16.

Fe anafwyd o leiaf 20 yn y ffrwydrad ddoe ac roedd o leiaf 11 o’r rhai gafodd eu lladd yn dramorwyr.

Tua hanner dydd amser lleol ddoe, cafodd caffi o’r enw Argana ei chwalu mewn sgwâr yng nghanol dinas Marrakech.

Oherwydd ei bod yn amser prysur o’r dydd, roedd y sgwâr yn llawn ac, yn ôl tystion, roedd y ffrwydrad anferth wedi chwalu tu blaen y caffi. Dyma’r ffrwydrad gwaethaf ym Morocco ers wyth mlynedd.

Fe ddigwyddodd yn un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd mewn gwlad sy’n dibynnu ar dwristiaeth.

Mae Llywodraeth Morocco’n dweud eu bod yn amau bod y ffrwydrad yn fwriadol, sy’n golygu ei fod y digwyddiad terfysgol mwyaf yn y wlad ers wyth mlynedd.