Syria
Mae o leiaf 15 o brotestwyr wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad gyda lluoedd diogelwch Syria heddiw.

Fe daniodd y lluoedd diogelwch bum bwled, a thanio nwy dagrau i gyfeiriad miloedd o bobol oedd yn gweiddi am ddemocratiaeth mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad.

Yn ôl llygad dystion, fe welson nhw o leia’ pump o gyrff yn ysbyty Hamdan y tu allan i’r brifddinas, Damascus. Roedden nhw i gyd wedi cael eu saethu.

Yn rhanbarth deheuol Daraa, mae llygad dystion eraill yn dweud fod o leia’ 10 o bobol wedi cael eu lladd pan fu protestwyr yn gorymdeithio heibio i swyddfa’r Maer. Maen nhw’n honni fod bachgen 11 oed ymhlith y meirwon.

Mae lluoedd diogelwch Syria wedi penderfynu taro’n ôl yn galed a digyfaddawd yn erbyn y protestwyr sydd bellach wedi bod wrthi’n herio’r llywodraeth ers mis. Mae dros 200 o bobol wedi eu lladd yn ystod y cyfnod hwnnw.