Nerys Evans
Mae ymgeisydd dros Blaid Cymru wedi dweud yn yr etholiad ar Fai 5, fod y Blaid yn “addo bonws busnesau bychain” ac eisiau gweld amgylchedd economaidd sy’n caniatáu i fusnesau yng Nghymru dyfu a ffynnu.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu Cronfa Dwf Gymreig gwerth £90m i helpu busnesau bychan a chanolig i fynd at y credyd hanfodol sydd yn ymdrech iddynt ei gael ar hyn o bryd,” meddai ymgeisydd y blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nerys Evans.

Roedd yn siarad o Fferm Siocled Pemberton yn Llanboidy, Sir Gaerfyrddin. Fe ddywedodd eu bod hefyd yn addo cynnal “rhyddhad trethi busnes trwy gydol tymor nesaf y Cynulliad”.

“Mae hyn yn anadl einioes i lawer o’n mentrau bychain, ond mae i fod i ddod i ben yn nes ymlaen eleni,” meddai wedyn. 

 ‘Dibynnu’

“Mae llawer busnes yng Nghymru, fel Fferm Siocled Pemberton yr wyf yn ymweld â hi heddiw, yn dibynnu ar dwristiaeth, sy’n golygu bod eu hincwm yn amrywio llawer yn ôl amser y flwyddyn.

“Dyna pam ein bod eisiau adolygu’r drefn bresennol o drethi busnes a chyflwyno newidiadau fydd yn ystyried tymoroldeb.

“Yn yr etholiad hwn, dim ond Plaid Cymru sydd â’r syniadau radical ac arloesol fydd yn creu gwell Cymru lle gall ein busnesau bach ffynnu a thyfu,”  meddai’r ymgeisydd.

Maniffesto

Yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad 5 Mai, mae Plaid Cymru yn addo’r canlynol:

· Sefydlu cronfa dwf gychwynnol gwerth £90m ar gyfer benthyciadau busnes

· Ymestyn y cynllun rhyddhad trethi busnes dros dro sydd i fod i ddiweddu ym mis Hydref, am dymor y Cynulliad nesaf

· Cynnal strategaeth manwerthu fanwl i Gymru

· Hybu siopa lleol a chaffael bwyd yn lleol