llwyfan olew
Mae protestwyr Greenpeace wedi dringo i ben platfform olew ger Twrci heddiw, er mwyn ceisio rhwystro’r llwyfan rhag cael ei symud i’r Ynys Las cyn dechrau drilio am olew yn yr Arctig.

Fe aeth unarddeg o brotestwyr i ben y llwyfan Leiv Eiriksson trwy ddefnyddio offer dringo, wedi cael yno mewn cychod cyflym ger Istanbul.

Ar ôl dringo i ben y llwyfan, fe hongwyd baner gyda’r geiriau Saesneg, “Stop Arctic destruction” a “Go Beyond Oil, Choose Clean Energy”.

Roedd y protestwyr yn dod o wledydd Prydain, Canada, Denmarc, Pwyl, Yr Almaen, Slofacia, Awstria, Sweden a Thwrci, ac roedden nhw’n barod i feddiannu’r llwyfan am hyd at bedwar niwrnod.