Tim Hetherington
Mae ffotograffydd o Brydain ymysg dau newyddiadurwr sydd wedi marw ar ôl cael eu taro gan roced wrth gofnodi’r brwydro yn ninas Misrata, Libya.

Fe fu farw’r ffotograffydd rhyfel Tim Hetherington, 41, a’i gyd-weithiwr o’r Unol Daleithiau,  Chris Hondros, 41, ac fe gafodd sawl newyddiadurwr arall eu hanafu gan shrapnel.

Daw’r marwolaethau wrth i fyddin Gaddafi barhau i ymosod yn ffyrnig ar Misrata, y ddinas olaf yng ngorllewin Libya sydd dan reolaeth y gwrthryfelwyr.

Mae oddeutu 300 o ddinasyddion eisoes wedi marw yn ystod y brwydro yno.

Ysgrifennodd Tim Hetherington, cyn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ei dudalen Twitter yn fuan cyn yr ymosodiad, gan ddweud: “Yn ninas Misrata, Libya, sydd dan warchae. Lluoedd Gaddafi yn bomio ar hap. Dim arwydd o Nato.”

Cafodd Tim Hetherington ei eni yn Lerpwl cyn astudio Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Enillodd ei waith yn Afghanistan Wobr Llun Newyddiadurol y Flwyddyn 2007 ac fe gafodd ei ffilm Restrepo am yr un rhyfel ei enwebu am Oscar yn 2010.

Dywedodd y newyddiadurwr James Brabazon, cyfaill agos i Tim Hetherington, wrth raglen Newsnight fod y ffotograffydd “ymysg y gorau yn ei genhedlaeth”.

“Roedd ganddo dalent unigryw ac mae wedi dangos y ffordd i genhedlaeth o ffotograffwyr,” meddai.