Fe fydd perthnasau’r 11 dyn a fu farw yn dilyn ffrwydrad ar lwyfan olew yng Nghwlff Mecsico yn hedfan dros yr union fan y digwyddodd y ddamwain heddiw.

Fe fydd digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Louisiana, Mississippi, Alabama a Florida er mwyn nodi blwyddyn ers dechrau’r trychineb amgylcheddol.

Ar 20 Ebrill y llynedd fe ffrwydrodd llwyfan olew Deepwater Horizon gan ladd 11 o weithiwr.

Deuddydd yn ddiweddarach fe syrthiodd y llwyfan i’r môr. Dyw cyrff y dynion erioed wedi dod i’r golwg.

Mae cwmni Transocean oedd yn rheoli’r llwyfan olew wedi gwahodd hyd at dri aelod o deuluoedd bob un o’r dynion ar yr awyren fydd yn hedfan dros y safle.

Olew

Dros yr 85 diwrnod ar ôl y ffrwydrad gwreiddiol fe gollwyd 206 miliwn galwyn o olew i’r môr yng Nghwlff Mecsico, a bu’n rhaid i gwmni olew BP wario biliynau o ddoleri wrth geisio atal y llif.

Mae olew yn parhau i olchi ar y lan yng Nghwlff Mecsico ac mae’r diwydiant pysgota yno yn wynebu dyfodol ansicr.

Ond mae pennaeth Adran yr Arfordir ac Amgylchedd ym Mhrifysgol Louisiana, Christopher D’Elia, wedi dweud bod y rhan fwyaf o wyddonwyr bellach yn credu na fydd effeithiau’r olew mor ddifrifol ac yr oedden nhw wedi ei ofni yn wreiddiol.

Serch hynny mae biolegwyr yn parhau i bryderu am effeithiau hir dymor yr olew ar fywyd morol.