Rhan o'r fom glwstwr honedig (Human Rights Watch)
Fe gafodd lluoedd y Cyrnol Gaddafi yn Libya eu cyhuddo o ddefnyddio bomiau clwstwr i ymosod ar bobol gyffredin.

Daw’r cyhuddiad gan y mudiad rhyngwladol, Human Rights Watch, sy’n dweud bod ganddyn nhw ddarnau o fom o’r fath.

Mae Libya eu hunain wedi gwadu’r honiadau er bod y mudiad wedi cyhoeddi lluniau o weddillion un o’r bomiau ac wedi siarad gyda llygad dystion.

Mae’r arfau wedi eu gwahardd yn rhyngwladol ers mis Awst y llynedd ac yn ôl y mudiad, mae’n “ddychrynllyd” bod Libya yn eu defnyddio.

Gweddillion

Yn ôl HRW, newyddiadurwr oedd wedi dod o hyd i’r gweddillion i ddechrau yn nhref Misrata ar ôl ymosodiad nos Iau.

Roedd hynny, medden nhw, mewn ardal llawn tai, heb fod ymhell o ysbyty a thua milltir o’r llinell ymladd rhwng lluoedd Libya a’r gwrthryfelwyr sy’n amddiffyn y dref.

Mae’r bomiau’n chwalu’n fomiau llai wrth lanio ac wedyn yn ysgyrion metel, gyda pheryg bod darnau ffrwydrol yn aros ar y tir wedyn.