Gorsaf niwclear Fukushima
Mae asiantaeth diogelwch niwclear Japan wedi dweud fod difrifoldeb yr argyfwng yng ngorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi ar yr un lefel a thrychineb Chernobyl.

Dywedodd swyddog o Gomisiwn Diogelwch Niwclear Japan, wrth siarad ar deledu’r wlad, fod graddfa difrifoldeb yr argyfwng wedi ei ddyrchafu o bump i saith.

Ond fe ychwanegodd y swyddog fod cyfanswm yr ymbelydredd sy’n gollwng o’r orsaf niwclear tua 10% faint oedd wedi gollwng o Chernobyl yn ystod y trychineb yn 1986.

Mae lefel 7 yn dynodi “damwain difrifol” â “canlyniadau pellgyrhaeddol”. Dyna’r  lefel uchaf ar y raddfa gafodd ei greu gan banel o arbenigwyr o’r Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol yn 1989.

“Rydyn ni wedi dyrchafu’r argyfwng i lefel 7 oherwydd effaith pellgyrhaeddol yr ymbelydredd ar yr awyr, llysiau, dŵr tap a’r môr,” meddai Minoru Oogoda o Asiantaeth Diogelwch Niwclear a Diwydiannol Japan.

Ffrwydrodd adweithydd Chernobyl, yn y Wcráin, ar 26 Ebrill, 1986, gan daenu cwmwl o ymbelydredd dros y rhan mwyaf o Hemisffer y Gogledd.

Syrthiodd yr ymbelydredd gyda’r glaw gan effeithio ar sawl rhan o Brydain, gan gynnwys gogledd-orllewin Cymru. Mae yna gyfyngiadau ar 355 o ffermydd yn yr ardal o hyd.

Cafodd gorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi ei ddifrodi gan y daeargryn 9.0 ar y Raddfa Richer a’r tsunami ar 11 Mawrth eleni.