Tokyo, Japan
Mae ôl-gryniad mawr arall wedi taro Japan heddiw – union fis ar ôl y daeargryn anferth achosodd y tsunami dinistriol.

Roedd rhybudd tsunami arall yn syth ar ôl y daeargryn ond does dim un wedi taro’r arfordir.

Fe barhaodd y daeargryn 7.1 ar y raddfa Richter am tua munud. Roedd canolbwynt y daeargryn tua 100 milltir i’r gogledd o’r brifddinas Tokyo.

Dywedodd y cwmni sy’n gyfrifol am Orsaf Niwclear Fukushima Dai-ichi nad oedd y daeargryn diweddaraf wedi ei effeithio.

Bu’n rhaid i brif faes awyr Tokyo gau ei ddwy lain lanio dros dro yn dilyn y daeargryn.

Dyma’r ail ôl-ddaeargryn 7.1 ar y raddfa Richter i daro’r wlad. Roedd yr un ddiweddaraf ddydd Iau.

Munud o dawelwch

Bydd seremonïau a munud o dawelwch yn y wlad heddiw er mwyn nodi mis ers y daeargryn a tsunami laddodd 25,000 o bobl.

Ond dyw’r argyfwng ddim ar ben eto felly ychydig iawn o amser fydd i edrych yn ôl. Mae miloedd o gyrff yn parhau ar goll, gorsaf niwclear Fukushima yn parhau i ollwng ymbelydredd, a 150,000 o bobl yn byw mewn llochesi dros dro.

“Mae gan bobol sydd wedi colli perthnasau a ffrindiau ein cydymdeimlad dwysaf,” meddai Prif Ysgrifennydd y Cabinet, Yukio Edano.

Ychwanegodd y byddai’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu galli i helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan y trychineb.

“Mae’n ddrwg gennym ni am unrhyw anghyfleustra ac anhawster i’r rhai sydd yn dal i fyw mewn llochesi,” meddai.

Eisoes, mae’r Llywodraeth wedi amcangyfrif y gallai’r difrod gostio cymaint â $310 biliwn.