Hofrennydd Chinook
Mae llywodraeth Libya wedi yn honni bod lluoedd arfog y wlad wedi dinistrio dau hofrennydd oedd yn cael eu defnyddio gan wrthryfelwyr.

Yn ôl y llywodraeth roedd y gwrthryfelwyr yn defnyddio hofrenyddion Chinook o’r Unol Daleithiau, yn groes i reolau’r Cenhedloedd Unedig ar beidio â hedfan yn y wlad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tramor, Khaled Kaim, fod y ddau Chinook oedd wedi eu saethu i lawr dros ddinas olew Brega.

Dyw’r gwrthryfelwyr heb gadarnhau’r adroddiadau, ond dywedodd llygaid dystion yn y ddinas eu bod nhw wedi gweld o leiaf un hofrennydd yn brwydro ar ochor y gwrthryfelwyr ddoe.

Dywedodd Khaled Kaim y dylai’r Cenhedloedd Unedig atal gwrthryfelwyr yn ogystal â byddin Libya rhag hedfan dros y wlad.

Mae’r rhan fwyaf o’r awyrennau sydd ar gael i luoedd arfog Libya a’r gwrthryfelwyr yn dod o Rwsia.

Yn ôl Cyfeirlyfr Lluoedd Awyr y Byd 2008 mae gan Libya 20 hofrennydd.