Byncer
Mae gwrthwynebwyr Arlywydd y Traeth Ifori wedi dweud eu bod nhw wedi ei gornelu mewn byncer.
Maen nhw’n dweud bod yr Arlywydd Laurent Gbagbo yn gwrthod gadael y byncer mae’n rhannu gyda’i wraig.
Ond mae’r gwrthwynebwyr yn fodlon aros tan ei fod yn penderfynu gadael.
Trwy ei lefarydd yn Ewrop, mae Laurent Gbagbo yn parhau i honni ei fod wedi ennill yr etholiad ‘nôl ym mis Tachwedd y llynedd.
Er gwaetha’r ffaith fod y gymuned ryngwladol yn dweud mai ei wrthwynebydd Alassane Quattara wnaeth ennill yr etholiad hwnnw, mae Gbagbo yn benderfynol o beidio ildio grym yn y wlad mae wedi ei rheoli ers deng mlynedd.
“Rwyf wedi siarad gyda’r Arlywydd ac ni fydd yn ildio. Mae’n Arlywydd a gafodd ei ethol gan y bobl,” meddai llefarydd Gbagbo.
Mae bwrdd etholiadol y Traeth Ifori a’r Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod Gbagbo wedi colli’r etholiad arlywyddol.
Roedd ei wrthwynebydd ac enillydd yr etholiad, Alassane Quattara, wedi cymeradwyo ymyrraeth filwrol yn dilyn pedwar mis o ddiplomasi.
Mae’r gwrthryfelwyr wedi ymosod ar gartref Laurent Gbagbo, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am ladd yr Arlywydd.
Gyda Laurent Gbagbo wedi ennill 46% o’r bleidlais yn yr etholiad, fe allai marwolaeth yr Arlywydd Gbagbo achosi gwrthdaro o fewn y wlad.
Fe ddywedodd Alassane Quattara bod Laurent Gbagbo yn dymuno bod yn ferthyr, ond na fyddai’n caniatáu i hynny ddigwydd.