Laurent Gbago
Mae arweinydd y Traeth Ifori, Laurent Gbagbo, yn barod i ildio yn ôl diplomydd o’r wlad.
Ddoe dechreuodd y Cenhedloedd Unedig a lluoedd Ffrengig ymosod ar ganolfannau milwrol yn y wlad, yn ogystal â’r palas arlywyddol.
Y gobaith yw y bydd yn brwydro yn arwain at ddisodli Laurent Gbagbo a gosod yr arlywydd etholedig, Alassane Ouattara, yn ei le.
Collodd Laurent Gbagbo yr etholiadau ym mis Tachwedd ond mae wedi gwrthod trosglwyddo’r awenau er bod ei wlad mewn perygl o gael ei lyncu gan ryfel cartref.
Llwyddodd gwrthryfelwyr sy’n deyrngar i Alassane Ouattara i gipio y rhan fwyaf o’r wlad mewn tri diwrnod yr wythnos diwethaf.
Ond fe drodd y brwydro’r fwy ffyrnig wrth iddyn nhw gyrraedd Abidjan, dinas fwyaf y wlad ble mae’r palas arlywyddol.
Gyda chymorth y milwyr rhyngwladol, maen nhw wedi llwyddo i frwydro i ganol y ddinas ble mae cartref Laurent Gbagbo. Roedd y brwydro’r parhau’r bore ma.
Mae cannoedd wedi marw o ganlyniad i’r trais a miloedd wedi gorfod ffoi.
“Yn ôl y wybodaeth sydd gen i, mae [Laurent Gbagbo] yn barod i ildio ac wedi sylweddoli bod y gêm ar ben,” meddai diplomydd y wlad yn Ffrainc, Ali Coulibaly.