Siop RadioShack yn Hamilton, Montana (o wefan papur newydd y Ravalli Republic)
Mae siop mewn tref anghysbell yn America’n cynnig dryll am ddim i bobl sy’n arwyddo cytundeb am deledu lloeren.

Yn ôl papur newydd y Ravalli Republic yn Hamilton, Montana, fe fydd cwsmeriaid sy’n arwyddo cytundebau am becynnau Dish Network yn siop RadioShack yn y dref yn cael cwpon am bistol neu ddryll hela.

Mae’r cynnig i’w weld yn glir i bawb sy’n teithio ar briffordd US Highway 93 trwy’r dref: “Protect yourself with Dish Network. Sign up now, get free gun.”

Mae dewis arall i’r rhai nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn cael dryll – tocyn gwerth 50 doler i’w wario yn Pizza Hut.

Dywedodd perchennog y siop, Steve Strand, fod rhywfaint o waith perswadio ar Dish Network i gytuno â’r dull marchnata, ond fod ei fusnes wedi treblu ers iddo gyflwyno’r cynnig ym mis Hydref y llynedd.