Yr Arlywydd Assad
Mae’n ymddangos bod degau o brotestwyr wedi cael eu lladd yn Syria wrth i wrthdystiadau ledu ar draws y wlad.

Roedd yna wrthdaro ddoe rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr y Llywodraeth mewn nifer o ddinasoedd a threfi, gan gynnwys y brifddinas Damascus.

Mae adroddiadau’n dweud bod lluoedd Llywodraeth yr Arlywydd Bashar al-Assad wedi bod yn tanio at y protestwyr mewn gwlad sydd wedi bod dan law haearnaidd y lluoedd diogelwch.

Fe ledodd y gwrthdystiadau’n sydyn ddoe o dref Deraa, lle mae protestiadau wedi bod yn ystod yr wythnos ddiwetha’.

Yn ôl y Llywodraeth, mae 34 o bobol wedi eu lladd yno; mae Amnest Rhyngwladol yn dweud mai’r ffigwr yw 55 a phobol leol yn dweud mwy na 100.

Fe gafodd trais y Llywodraeth ei gondemnio gan y Gweinidog Tramor yn Llundain, Alistair Burt, ac fe alwodd ar yr Arlywydd i droi at ddiwygio gwleidyddol yn hytrach na thrais.

Mae’r Arlywydd Assad yn cael ei weld yn gyfaill i Iran. Mae ei deulu’n dod o garfan leiafrifol yn Syria ond maen nhw wedi llwyddo i gadw rheolaeth tan hyn ar y mwyafrif, sy’n Foslemiaid Sunni.