Ali Abdullah Saleh
Mae arweinydd Yemen wedi dweud wrth ddegau o filoedd o gefnogwyr heddiw ei fod yn barod i gamu i lawr ond nad ydi o am roi’r wlad yn nwylo’i wrthwynebwyr.

Dywedodd Ali Abdullah Saleh, sydd wedi bod mewn grym er 30 mlynedd, wrth dyrfa y tu allan i balas arlywyddol y wlad nad oedd am weld “delwyr cyffuriau” yn cipio grym yn Yemen.

Ynghanol y ddinas roedd tyrfa hyd yn oed yn fwy wedi ymgasglu gan weiddi sloganau a dal cardiau coch yn galw arno i “adael”.

Wythnos yn ôl saethodd lluoedd diogelwch y llywodraeth mwy na 40 o bobol yn farw yn y brifddinas Sanaa.

Cyhoeddodd sawl cadlywydd milwrol ac aelodau o’r blaid sydd mewn grym y bydden nhw’n ymuno â’r protestwyr yn dilyn y tywallt gwaed.

Mae Ali Abdullah Saleh wedi cyhoeddi fod y wlad mewn argyfwng ac wedi caniatáu sensro’r cyfryngau, tapio llinellau ffon, a chadw pobol yn y ddalfa heb iddyn nhw wynebu llys.

“Does dim awydd ganddon ni sy’n arwain y wlad i gadw grym i’n hunain ond mae angen i ni ei roi yn nwylo pobol y mae modd i ni ymddiried ynddynt,” meddai wrth annerch ei gefnogwyr.

“Nid i ddwylo pobol sâl, llygredig a llawn casineb.”