Awyren Tornado - rhan o'r ymosodiadau
Mae awyrennau lluoedd y gorllewin yn parhau i ymosod ar dargedau Libya o’r awyr wrth i Nato gymryd cyfrifoldeb am y gynnal yr ardal dim-hedfan.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud bod awyrennau Tornado GR4 Prydain wedi ymosod ar luoedd Muammar Gaddafi.

Ar ôl dyddiau o drafod, fe gymerodd cynghrair Nato gyfrifoldeb am y gwaharddiad hedfan ond fyddan nhw ddim yn trefnu’r cyrchoedd eraill.

Fe fydd y rheiny’n parhau yn nwylo’r gwledydd unigol wrth i’r Unol Daleithiau, gwledydd Prydain a Ffrainc barhau gyda’u hymosodiadau.

Fe fydd trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r posibilrwydd fod Nato’n cymryd cyfrifoldeb am y cyfan. Dyw rhai gwledydd, fel Twrci, ddim yn hapus â hynny.

‘Atal lladdfa’

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, bod ymosodiadau o’r awyr wedi “atal lladdfa yn Benghazi” a bod lluoedd awyr Cyrnol Gaddafi erbyn hyn yn “aneffeithiol”.

Mae hyn wedi clirio’r ffordd i awyrennau’r lluoedd rhyngwladol hedfan yn gyson tros Libya gan atal Gaddafi rhag ymosod o’r awyr ar y gwrthryfelwyr.

Er hynny, mae milwyr y Llywodraeth yn parhau i ymosod ar y ddaear ac, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae brwydro caled tros ddinas Adjabiya.

Yr Emiradau’n ymuno

Yr Emiradau Arabaidd Unedig yw’r ail wlad Arabaidd ar ôl Qatar i gyhoeddi eu bod nhw’n anfon awyrennau i helpu gyda’r ardal dim-hedfan.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn “gam sylweddol ymlaen” ac yn dangos bod gan wledydd Arabaidd “rôl bendant” yn yr ymgyrch.