Map yn dangos Daraa (NordNordWest CCA 3.0)
Mae dinasyddion Prydeinig wedi cael eu rhybuddio i gadw’n glir o un rhan o Syria ar ôl i hyd at naw o bobol gael eu lladd yno.

Roedd lluoedd y Llywodraeth wedi ymosod ar brotestwyr yn nrhef Daraa ac, yn ôl teledu’r wlad, roedd grŵp arfog wedi ymosod ar ambiwlans, gan ladd meddyg, parafeddyg, plismon a’r gyrrwr.

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod 16 o bobol wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro yn y rhan honno o Libya, wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio canon dŵr, nwy dagrau a bwledi byw.

Mae gan Lywodraeth Syria yr enw o fod yn galed iawn tuag at unrhyw wrthdystiadau a dyma’r her fwya’ iddyn n hw ers blynyddoedd.

Ym marn y Swyddfa Dramor ddylai neb deithio i’r ddinas sy’n agos at y ffin gyda Gwlad Iorddonen.