Papurau 2000 yen
Mae lladron wedi mynd a £250,000 o bunnoedd o sêff mewn banc yn ardal trychineb Japan.

Roedd y blwch diogel wedi’i dddifrodi gan y tswnami a’r daeargryn yn y wlad.

Roedd y ddau drychineb wedi effeithio ar offer diogelwch y banc, meddai’r heddlu, gan adael i rywun gario 40 miliwn yen oddi yno,  a hynny mewn arian parod.

“Roedd y banc yn llawn dŵr, roedd pethau ym mhobman – roedd y lle yn llanast llwyr,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu lleol. “Fe wnaeth rhywun ddwyn yr arian yng nghanol yr anrhefn.”

Dim ond yn awr y cafodd yr heddlu wybod am y lladrad.