Adeilad Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd
Fe ddylai Prifysgol Cymru uno gyda sefydliadau eraill neu ddod i ben.
Dyna gasgliad adroddiad a gafodd ei baratoi ar ran Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews.
Mae wedi bod yn feirniadol iawn o’r Brifysgol ers i adroddiadau yn y cyfryngau godi amheuon am rai o’r colegau tramor sy’n cynnig graddau sy’n cael eu dilysu ganddi.
Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn ystyried ymunog gyda thair o brifysgolion eraill ac efallai bump i greu prifysgol newydd sbon.
Yn ôl yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, fe fydd angen astudio’r cynigion hynny’n ofalus i benderfynu a ydyn nhw’n realistig.
Dod i ben
Y ddau ddewis arall yw bod y Brifysgol yn uno gyda chyrff addysg uwch eraill i gynnig gwasanaeth i brifysgolion, neu diddymu’r Brifysgol yn llwyr.
Fe fyddai hynny’n golygu bod pob un o brifysgolion Cymru’n cyflwyno eu graddau eu hunain neu’n cael graddau wedi eu dilysu gan brifysgol arall.
Fe fyddai’r Ganolfan Uwchefrydiau Celtaidd a Geiriadur y Brifysgol yn mynd dan ofal un o’r prifysgolion unigol – mae’r ddau sefydliad yn Aberystwyth.
Mae’r Brifysgol wedi dweud y byddan nhw’n ymateb i’r Adroddiad ar ôl cael cyfle i ystyried ei gynnwys.