Awyren Typhoon
Mae awyrennau gwledydd Prydain wedi bod yn rhan o drydedd noson o ymosodiadau ar ganolfannau’r Cyrnol Gaddafi yn Libya.

Mae adroddiadau bod safleoedd llynges Libya wedi eu taro yn agos at y brifddinas Tripoli gydag awyrennau Typhoon yn rhan o’r gweithredu – y tro cynta’ iddyn nhw gael eu defnyddio mewn ymladd o’r fath.

Yn y cyfamser, fe roddodd ASau gefnogaeth gre’ i benderfyniad y Llywodraeth i ymosod. Fe bleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin o 557 i 13 o blaid gweithredu milwrol.

Ond roedd nifer o aelodau’n poeni am ben draw’r ymosodiadau – yn ôl rhai fel y Llafurwr Dennis Skinner, roedd hi’n hawdd dechrau rhyfel ond yn fwy anodd dod â rhyfel i ben.

‘Gwahanol i Irac’

Fe addawodd y Prif Weinidog, David Cameron, na fyddai Libya’n troi’n Irac arall – doedd dim bwriad i feddiannu’r wlad, meddai.

“Dyw hyn ddim yn fater o fynd i mewn i wlad, taro’r llywodraeth i’r llawr ac wedyn meddiannu a bod yn gyfrifol am bopeth sy’n digwydd wedyn,” meddai.

“Mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn pobol a rhoi cyfle i bobol Libya lunio eu dyfodol eu hunain.”

Gaddafi – targed neu beidio?

Mae rhywfaint o anghytundeb wedi codi tros hawl y lluoedd rhyngwladol i ymosod ar Muammar Gaddafi ei hun.

Roedd pennaeth y lluoedd arfog, David Richards, wedi dweud ddoe nad oedd hynny’n cael ei ganiatáu gan benderfyniad y Cenhedloedd Unedig.

Ond, yn ddiweddarach, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, a chadarnhau hynny ac mae cyn-bennaeth milwrol arall, Richard Kemp, yn dweud mai’r bwriad yw disodli’r Cyrnol.

Pôl piniwn yn erbyn

Yn groes i ASau, dim ond 35% o bobol gwledydd Prydain sydd o blaid yr ymosod, yn ôl arolwg barn. Mae pôl gan ComRes yn awgrymu hefyd y byddai 53% yn erbyn colli bywydau Prydeinig wrth amddiffyn pobol Libya.