Cynyddu mae’r pwysau ar arlywydd Yemen wrth i ddegau o filoedd fynychu angladdau rhai o’r 40 a mwy o brotestwyr a gafodd eu lladd gan filwyr y llywodraeth ddydd Gwener.

Mae ei dylwyth ei hun yn ogystal â rhai o arweinwyr crefyddol pwysica’r wlad yn galw am ymddiswyddiad Ali Abdullah Saleh, ac mae ei weinidog hawliau dynol wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad mewn protest yn erbyn trais y llywodraeth.

Mae torfeydd anferth wedi bod yn heidio i sgwar prifysgol y brifddinas Sanaa, ac mae miloedd o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn gwrthdystiadau ledled y wlad.

“Rydym yn nodi ein parch at farn y bobl yn sgwâr prifysgol Sanaa,” meddai Sheik Sadiq al-Ahmar, pennaeth y tylwyth Hashed y mae Saleh yn perthyn iddo, mewn datganiad ar y cyd gydag arweinwyr crefyddol.

Dywed gwrthbleidiau sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y gorymdeithiau eu bod nhw wedi newid eu safbwynt, a bod eu galwadau am ddiwygiadau crefyddol wedi troi’n alwadau ar i Saleh fynd.

“Ein hunig ddewis bellach yw cael gwared ar y gyfundrefn a hynny’n fuan. Rydym yn sefyll ochr yn ochr â galwad y bobl,” meddai arweinydd yr wrthblaid, Yassin Said Numan.

Yn dilyn y lladd ddydd Gwener, cafodd yr Arlywydd ei gondemnio hefyd gan y Cenhedloedd Unedig a’r Unol Daleithiau, sydd wedi cefnogi ei lywodraeth gyda miliynau o ddoleri mewn cymorth milwrol er mwyn ymladd yn erbyn carfan gref o al Qaida sy’n gweithredu o’r wlad.