Warren Christopher, ysgrifennydd gwladol America o dan arlywyddiaeth Bill Clinton
Fe fu farw Warren Christopher, ysgrifennydd gwladol America o dan arlywyddiaeth Bill Clinton rhwng 1993 ac 1997.

Roedd yn 85 oed ac yn dal i fod yn bartner cwmni o gyfreithwyr yn Los Angeles.

Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd gwladol, fe chwaraeodd ran flaenllaw mewn ymdrechion i ddod â heddwch i’r dwyrain canol ac yn Bosnia. Pan adawodd ei swydd, fe ddywedodd mai’r hyn yr oedd yn ymfalchïo fwyaf ynddo oedd helpu i hyrwyddo gwaharddiad ar brofi arfau niwclear.