Llwyfan olew yn Libya (Cipriano CCA 2.0)
Mae prisiau olew wedi disgyn ar ôl i Weinidog Tramor Libya gyhoeddi oedi yn yr ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr.

Yn dilyn cyhoeddiad Moussa Koussa fe ddisgynnodd prisiau olew ar y New York Mercantile Exchange $3 mewn 15 munud.

O fewn munudau ar ôl i Nymex ddechrau masnachu, roedd pris olew i lawr 37 sent.

Ers i wrthryfela ddechrau yn Libya mis diwethaf, mae tuag 1.5 miliwn yn llai o gasgenni olew wedi eu cynhyrchu bob dydd.