Dechrau'r problemau yn Fukushima Dai-ichi
Mae asiantaeth ddiogelwch niwclear Japan wedi codi lefel y bygythiad ymbelydredd o lefel pedwar i lefel pump.
Mae hyn yn golygu bod difrifoldeb y broblem yng ngorsaf niwclear Fukuskima Dai-ichi lawn mor wael â’r ddamwain ar Three Mile Island yn yr Unol Daleithiau yn 1979.
Mae yna saith lefel ar y Raddfa Digwyddiadau Niwclear Ryngwladol. Mae Lefel Pedwar yn golygu canlyniadau lleol a Lefel Pump yn golygu y gallai fod yna ganlyniadau ehangach.
O ran yr effaith, mae Lefel Pump yn golygu y gallai fod yna ddifrod difrifol i’r adweithydd craidd, bod lefel sylweddol o ymbelydredd yn cael eu gollwng a bod tebygolrwydd mawr y bydd effaith ar y cyhoedd neu rai marwolaethau.
Mae Awdurdod Diogelwch Niwclear Ffrainc wedi dweud y dylai lefel y bygythiad yn yr orsaf yng ngogledd ddwyrain Japan fod ar Lefel Chwech.
Roedd trychineb niwclear Chernobyl yn y Wcráin yn 1986 ar Lefel Saith.