Y Cyrnol Gaddafi
Mae adroddiadau bod gwrthryfelwyr yn Libya wedi saethu dwy o awyrennau lluoedd Muammar Gaddafi wrth iddyn nhw ymosod ar faes awyr yn un o gadarnleoedd y gwrthwynebwyr.

Roedd y ddwy’n ymosod ar faes awyr Benina ychydig y tu allan i ddinas Benghazi ac wedi achosi ychydig o ddifrod cyn iddyn nhw gael eu saethu i’r llawr.

Roedd y gwrthryfelwyr hefyd wedi defnyddio awyrennau a hofrenyddion i ymosod ar filwyr y llywodraeth sy’n ceisio cael y wlad gyfan dan reolaeth unwaith eto.

Mae lluoedd Cyrnol Gaddafi wedi cyrraedd dinas Ajdabiya sydd tua 100 milltir o Benghazi, y ddinas fwya’ sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Mae swyddogion ysbyty yn yr ardal yn dweud bod 30 o bobol wedi cael eu lladd ac o leia’ 80 wedi’u hanafu ers i’r ymladd ddechrau yn Adjabiya nos Fawrth.

Gobeithio am waharddiad hedfan

Mae’r gwrthryfelwyr yn dweud eu bod nhw’n gobeithio cael cymorth wrth Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig cyn bod milwyr llywodraeth Libya yn cyrraedd.

Mae’r Unol Daleithiau bellach yn awyddus i’r Cyngor Diogelwch gymeradwyo cynlluniau i atal milwyr, awyrennau, a llongau rhag ymosod ar y gwrthryfelwyr ond mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, wedi awgrymu bod angen cryn waith cyn cael cefnogaeth lwyr.

Mae gweinyddiaeth Barack Obama wedi dweud na fyddai’n gweithredu heb ganiatâd y Cyngor Diogelwch.

Dydyn nhw ddim chwaith eisiau gosod milwyr yr Unol Daleithiau yn Libya, gan ffafrio mwy o gyfraniad gan wledydd Arabaidd eraill.